top of page
FISHER & PAYKEL - FFWRN DDWBL  7 GORCHWYL

FISHER & PAYKEL - FFWRN DDWBL 7 GORCHWYL

Ar gyfer y rhai sy'n caru creu. Dwy ffwrn annibynnol er mwyn i chi allu coginio sawl saig ar yr un pryd.

  • GWYBODAETH

    Byddwch yn greadigol yn y gegin gyda'r ffwrn ddwbl chwaethus hon gan Fisher & Paykel. Oherwydd bod y ddwy ffwrn yn amlswyddogaethol, gallwch yn hawdd gael gwahanol raglenni yn rhedeg ar yr un pryd. Mae hyn yn golygu y gall eich cyw iâr fod yn rhostio yn y prif ffwrn tra bod eich myffins siocled yn pobi yn y llall. Beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd, mae technoleg AeroTech yn sicrhau bod yr aer poeth yn cael ei gylchredeg yn gyfartal y tu mewn, felly bydd pob modfedd o'ch bwyd yn cael y sylw y mae'n ei haeddu. A diolch i ddrws CoolTouch gwydrog pedwarplyg, all gwres ddim ddianc - gan ei gwneud hi'n ddiogel cyffwrdd yn ogystal â bod yn ynni-effeithlon iawn. Dim ond glanhau cyflym sydd ei angen ar y model hwn hefyd, gan fod y leininau catalytig yn gwneud y gwaith caled ac yn amsugno'r saim.

Bwliau a Dolenni Cegin