top of page
Helmsley Classic Midnight Blue Main Shot 1 jph.jpg

Calon eich Cartref

Ein Hethos

Wedi'i sefydlu yn 2012, stiwdio ceginau ac ystafelloedd gwely yw Redi Galeri, sy'n darparu dyluniadau unigryw a phwrpasol ar gyfer cartrefi ledled De a Gorllewin Cymru.

 

Rydym yn ymhyfrydu yn ein gwasanaeth cwsmeriaid sy'n cynnig dull personol o ymdrin ag anghenion pob un o'n cleientiaid. Gyda'n gilydd, gallwn sicrhau eich bod yn derbyn y cyngor a'r cynnyrch gorau posib. Hyderwn y gallwn gynnig gwasanaeth sy'n cymryd y baich oddi ar eich ysgwyddau. 

Rydym yma i'ch helpu i greu cartref eich breuddwydion.

Ysbrydoliaeth

Lliwiau tywyll beiddgar oedd yn mynd â bryd pawb yn ystod 2020, ond wrth i 2021 ein sgubo ni yn ein blaenau, mae ceginau gwyrdd yn mynd i fod yn edrychiad newydd pwysig. 

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, lliw glas tywyll oedd popeth, ond disgwyliwch weld mwy o wyrdd yn dod i'r amlwg o hyn ymlaen, o dels i gypyrddau, yn amrywio o wyrdd lliw potel i liw saets mwy cynnil.

 

Gellir cydbwyso lliw gwyrdd dwfn y goedwig ag arlliwiau o liw latte, gwydr myglyd ac ategolion metalaidd meddal, gan ddod â'r gegin yn fyw. Gall ychwanegu arwynebedd marmor gwyn gyda chyffyrddiadau o liw pres hwnt ac yma o fewn y dyluniad  a chyda'r goleuadau, helpu i gydbwyso'r arlliwiau trymach yn hyfryd.

Harbury-Kitchen-Cameo-2-plate-rack-amd-2480x3310.jpg
Whitby Atlantic Green Main Shot 2.jpg
LA_KitchenCollection_65k.png
Black Marble

GEIRDA

Newydd osod cegin wedi ei chyflenwi gan Redi Galeri. Roedd pawb y cawsom gyswllt â nhw yno yn gefnogol ac yn frwdfrydig iawn. Byddwn yn argymell y cwmni'n frwd iawn.

Mr a Mrs Hog

!
bottom of page